Mae dau gyfleuster chwaraeon sydd wedi cael eu hadnewyddu’n ddiweddar wedi agor ym Mharc Coffa Talbot, Port Talbot a Pharc Siencyn Powell, Cwmafan.
Mae’r cyfleusterau newydd hyn, a ariannwyd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot a Chwaraeon Cymru, bellach ar agor i’r cyhoedd, gan ddarparu lle i chwarae tenis, pêl-rwyd a phêl-fasged.
Gwelodd yr ardaloedd hyn oedd yn cael eu tanddefnyddio gynt ailwampio trylwyr gwerth £167,000, sy’n cynnwys:
• Gosod wyneb newydd ar yr ardaloedd chwaraeon a gwella draeniad
• Marciau newydd ar y cyrtiau sy’n cydymffurfio â safonau’r corff llywodraethu
• Celfi newydd i’r cyrtiau gan gynnwys rhwydi tenis, a chylchoedd pêl-fasged a phêl-rwyd.
• Ffensys newydd ar hyd y ffin.
• Gwell hygyrchedd i gadeiriau olwynion.
Негізгі бет Agor Cyfleusterau Chwaraeon Newydd yng Nghwmafan a Phort Talbot
No video
Пікірлер